Croeso
Pwy yden ni?
Mudiad cymunedol, lleol yw Menter Iaith Maldwyn – un o 22 Menter Iaith sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae’r Fenter yn sefydliad byrlymus, sy’n gweithio gyda phobl o bob oed ar draws Maldwyn. Ein hanfod yw rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ynghyd â chynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith Gymraeg.
Be’ allwn ni ei gynnig i…
TEULUOEDD
– Gweithgareddau a gweithdai i hybu defnydd o’r iaith Gymraeg
– Cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol
– Cyngor i rieni ar fagu plant yn ddwyieithog
– Cyngor am addysg Gymraeg
– Cyngor a gwybodaeth i unigolion sydd yn / am ddysgu Cymraeg
BLANT A PHOBL IFANC?
Mae Menter Maldwyn yn cyd-weithio a phartneriaid i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r dosbarth trwy drefnu a rhedeg gwahanol weithgareddau, gweithdai a chlybiau ieuenctid. Rydym hefyd yn cyd-weithio gyda’r ysgolion lleol i gynnig prosiectau a phrofiadau i hybu defnydd o’r iaith o fewn a thu allan i’r ysgol.
GYMUNEDAU?
Mae Menter Iaith Maldwyn yn cyd-weithio’n agos gyda mudiadau a phwyllgorau lleol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Sir Drefaldwyn.
- Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys
- Mudiad Meithrin
- Cymraeg i Blant
- Yr Urdd
- CFFI / YFC
- Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
- Merched y Wawr
- Papurau Bro Maldwyn: Yr Ysgub, Plu’r Gwenydd, Seren Hafren, Blewyn Glas
Gall Menter Maldwyn gynnig y gwasanaethau canlynol:
– Cefnogaeth i drefnu gweithgareddau Cymraeg o fewn y gymuned
– Offer cyfieithu ar y pryd i fudiadau a grwpiau cymunedol
– System sain sy’n addas i gyfarfodydd, Gigs a chyngherddau bach
– Cyngor a chymorth i gynnig gwasanaethau dwyieithog ac ehangu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich mudiad
Mae Menter Iaith Maldwyn yn awyddus i gydweithio efo grwpiau cymunedol, clybiau ieuenctid a busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Drefaldwyn. Cysylltwch â ni gydag unrhyw syniadau neu awgrymiadau am brosiectau, rydyn ni’n croesawu unrhyw gynnigion.